top of page

Pwy ydym ni?

Mae Eleni yn elusen ac yn fudiad wedi’i hariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru sy’n gyfrifol am gynnig cyfleoedd i bobl o bob oed a gallu. Rydym yn datblygu safonau darpariaethau dysgu ac yn cydweithio gyda chymunedau ledled rhanbarthau Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam yn ymwneud ag ystod o weithgareddau dawns.

 

Ymysg gweithgareddau Eleni mae ystod o ddosbarthiadau a gweithdai yn ymdrin â gwahanol arddulliau dawns. Hefyd rydym yn cynnal prosiectau wedi’u targedu ar gyfer pobl o bob oed a gallu mewn cymunedau ac ysgolion a hefyd yn y system cyfiawnder troseddol a lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol. 

Wir yn mwynhau fy hun. Pob wythnos rydw i fymryn yn gyndyn o gymryd rhan ond erbyn y diwedd rydw i wrth fy modd.

Barn Pobl Amdanom ni

Roedd y penwythnos yma yn wych. Roedd yn hwyl cyfansoddi dawns ac rydw i’n edrych ymlaen yn fawr i’w pherfformio

Credaf fy mod yn rhannu barn pawb ohonom pan rydw i’n dweud y byddai pob un ohonom yn ei golli gan ein bod ni’n ei fwynhau cymaint. Bu inni gyd ddweud ein bod yn ei golli yn ystod y gwyliau ac rydym yn gobeithio na ddaw i ben gan ei fod yn rhoi rheswm inni i gyd fynd ati i wneud ychydig o ymarfer corff [sic]

Unigolyn sy’n cymryd rhan, Carchar Berwyn EM  

Unigolyn sy’n cymryd rhan, Dawns Ieuenctid

Unigolyn sy’n cymryd rhan, Dawnswyr yr Wyddgrug (Mold Movers)

bottom of page