top of page

Tro bwynt

IMG_6749.jpg
IMG_6750.jpg
IMG_6833.jpg
IMG_6845.jpg

O ganlyniad i geisiadau llwyddiannus am gyllid i Sefydliad Garfield Weston a Chyngor Celfyddydau Cymru ar ddiwedd 2018, mae Eleni wedi sicrhau’r modd ariannol i gynhyrchu dim llai na chwech o brosiectau Trobwynt. Mae dau wedi eu cwblhau, mae dau wedi eu gohirio (mwy am hyn wedyn), a bydd dau yn cael eu hamserlennu cyn gynted ag y bydd yn ddiogel gwneud hynny.

Prosiect pontio ac iddo amryw o elfennau yw Trobwynt. Yn gyntaf, mae ysgolion uwchradd wedi ffurfio partneriaethau gydag ysgolion cynradd penodol i greu cysylltiadau rhwng disgyblion Blwyddyn 5/6 a myfyrwyr Blwyddyn 7, er mwyn hwyluso’r cyfnod pontio pan fo plant yn symud i fyny i’r ysgol uwchradd. Mae pob dosbarth sy’n cymryd rhan yn derbyn naw awr o weithdai dawns creadigol gan ymarferydd dawns proffesiynol i goreograffu eu darn dawns gwreiddiol eu hunain. Mae’r holl grwpiau wedyn perfformio gyda’i gilydd yn yr ysgol uwchradd, i gynulleidfa o’u rheini, gwarcheidwaid a’u teuluoedd eu hunain. Hyd yn oed os nad yr ysgol uwchradd sy’n cymryd rhan yw’r un y bydd rhai o’r disgyblion yn mynd iddi, mae’n rhoi cyfle i berfformo, a chyfle iddynt dreulio rhywfaint o amser mewn amgylchedd ysgol uwchradd. Lle bo’n briodol, mae’r rhannu hwn hefyd yn cynnwys darnau dawns o Gwmni Dawns Ieuenctid Eleni a chan ymarferwyr Eleni, gan ddangos cyfleoedd pellach mewn dawns, fel gweithgaredd hamdden ac fel gyrfa broffesiynol.

Yn ail, mae’r prosiect yn cynnig hyfforddiant mewn cyflwyno dawnsio creadigol mewn cyd-destun addysgol mewn paratoad ar gyfer Cwricwlwm Cenedlaethol newydd Cymru. Trwy bedair awr o hyfforddiant unigol, pwrpasol un-i-un, mae athro neu athrawes y dosbarth sydd wedi cyflawni’r prosiect yn ennill gwybodaeth a dealltwriaeth o’r broses greadigol wrth addysgu trwy ddawns ar gyfer adran Celfyddydau Mynegiannol cwricwlwm newydd Cymru.

Yn drydydd, mae’r prosiect yn galluogi Eleni i arwain dawnswyr ifanc sydd â diddordeb mewn datblygu eu diddordebau mewn dawns at raglen bresennol Eleni o ddsobarthiadau dawns yn y gymuned, ac felly’n galluogi parhad o’r sgiliau a ddysgwyd, a meithrin gweithgaredd hamdden newydd neu sydd eisoes yn bod, neu ddewis posibl o ran gyrfa.

Ers i brosiect Trobwynt gael ei lansio ym mis Chwefror 2019, mae ymarferwyr Eleni wedi gweithio gyda 25 o ysgolion a mwy na 600 o ddisgyblion ac athrawon. Mae adborth gan athrawon, disgyblion ac aelodau’r gynulleidfa wedi cynnwys sylwadau fel “Roedd y canlyniad yn wirioneddol hyfryd”, “Prosiect pleserus iawn”, a “[gwelsom] gynnydd mewn hyder a hunan-barch”.

Fel y crybwyllwyd eisoes, bu’n rhaid gohirio dau o’r prosiectau yn anffodus, yn sgil y coronafeirws. Roedd pawb ohonom yn siomedig iawn oherwydd hyn, ond wrth gwrs, rhaid i iechyd pawb ddod yn gyntaf. Rydym yn archwilio dewisiadau i ailgychwyn y prosiectau hyn, efallai mewn ffurf sydd wedi’i addasu ychydig os bydd angen, er mwyn sicrhau bod y cyfranogwyr sydd wedi gweithio mor galed yn cael y cyfle i weld diweddglo boddhaol i’w hymdrechion.

Mae cymryd rhan ym mhrosiect Trobwynt yn digwydd trwy wahoddiad, felly os ydych chi’n athro neu athrawes a’r prosiect yn apelio atoch, cadwch glust neu lygad am negeseuon e-bost neu alwadau ffôn i’ch ysgol! Wrth gwrs, os hoffech weithio gyda Eleni ar brosiect dawns o’ch cynllun eich hun, cysylltwch â ni ar unwaith!

01978 869456 / 07399 642853

info@newdance.org.uk

bottom of page