top of page

HMP Berwyn

Ym mis Chwefror 2018, aeth Eleni ati i gynnal y cyntaf o’n prosiectau ar y cyd â Charchar Berwyn EM, sef carchar i ddynion yn Wrecsam. Diben y prosiectau oedd cynnig cyfle i breswylwyr y carchar gymryd rhan mewn sesiynau dawns a pherfformio sioe, wedi’i drefnu gan y rheiny oedd yn cymryd rhan, i’w cyfoedion a staff yn y carchar. Nod y prosiectau ydy hybu lles corfforol a meddyliol y preswylwyr a’u helpu i ddatblygu sgiliau ymroddiad, gweithio mewn tîm a gwydnwch ynghyd â rhoi hwb i’w hyder. Mae hefyd yn gyfle i lawer o’r preswylwyr, sydd heb roi cynnig ar ddawnsio o’r blaen, fanteisio ar brofiad o’r newydd.

​

Gwelwn, o fwrw golwg ar yr adborth, fod sawl un o’r rheiny oedd yn cymryd rhan wedi cyflawni’r nodau hyn – bu inni dderbyn sylwadau fel “…roedd yn fodd o ddod â ni i gyd ynghyd”, “roeddwn i’n teimlo ychydig yn lletchwith ond wnes i fedru ymlacio a mwynhau mewn dim”, a “daeth â gwen i fy wyneb”. Bu i sawl un ddangos diddordeb yn y prosiect presennol (sydd yn anffodus wedi’i ohirio oherwydd y coronafeirws) yn sgil enghraifft wych y grwp blaenorol.

Male Dancer
Boombox Music Player

Mae amgylchedd y carchar, yn naturiol, yn amgylchiadau hynod unigryw inni weithio ynddo. Fodd bynnag, bu i’r ymarferwyr dawns fwynhau’r cyfle’n fawr a bu i un ei ddisgrifio fel uchafbwynt ei gyrfa hyd yn hyn. Y prif drafferthion ynghlwm â’r prosiect ydy’r rheolau rhwystrol, ond angenrheidiol, yn ymwneud â chludo cyfarpar i’r carchar a’r ffaith bod rhai preswylwyr ond yn aros am gyfnod byr.

​

Mae’n rhaid cynllunio pob prosiect a sesiwn yn ofalus ymlaen llaw, er mwyn gofalu bod y cyfarpar angenrheidiol er mwyn chwarae’r gerddoriaeth ar gyfer y sesiwn ar gael. Does dim modd i’r ymarferwyr ddod â’u peiriant chwarae cerddoriaeth eu hunain oherwydd gweithdrefnau diogelwch y carchar. Mae poblogaeth y carchar yn newid yn gyson, gan fod preswylwyr cyfredol yn symud i garchardai eraill, yn cael eu rhyddhau neu oherwydd bod dynion newydd yn cyrraedd y carchar. Mae hyn yn amlwg o ystyried presenoldeb y sesiynau dawns. Fodd bynnag mae gan yr ymarferwyr arwyddair: “Ymlaen bob amser heb edrych tuag yn ôl”. Waeth pa unigolion sy’n bresennol ymhob gweithdy, maen nhw’n parhau i wneud cynnydd yn y sesiynau. O ganlyniad mae’r grŵp cyfan bob amser yn gweithio tuag at gyflawni nod terfynol o greu dawns orffenedig gall y rheiny sy’n cymryd rhan ymfalchïo ynddi. Dywedodd un o’r ymarferwyr: “…caiff unigolion newydd eu bwrw i’r dwfn yn aml ond maen nhw’n llwyddo i addasu a dal ati!”    

Datblygodd y bartneriaeth yn wreiddiol gyda dau ymarferydd Eleni yn cynnal y cynllun prawf yn y carchar. Bu’r cynllun mor llwyddiannus fel y bu inni dderbyn mwy o gyllid i fedru parhau gyda’r gwaith. Erbyn hyn, roedd Cyfarwyddwr Artistig Eleni, Angela Fessi, yn awyddus i ychwanegu elfen arall i’r prosiect. Ei bwriad oedd cynnig llwybr trosiannol o’r carchar i’r gymuned a fydd yn gyfle i’r dynion hynny oedd yn dymuno parhau i ddawnsio, wedi iddyn nhw gael eu rhyddhau, wneud hynny.

​

Bu i Angela gysylltu gyda Fallen Angels Dance Theatre, sef cwmni dawns sy’n cefnogi’r rheiny ar eu taith at wella o fod yn gaeth i alcohol neu gyffuriau, i weld a fuasen nhw’n fodlon cydweithio. Gyda lwc, roedden nhw’n fwy na bodlon cydweithio a bu i Rachel, ymarferydd Eleni, fynychu hyfforddiant gyda’r Fallen Angels Dance Theatre. Bu i Rachel fynychu gweithdai dawns gyda phobl oedd yn gwella o fod yn gaeth i alcohol neu gyffuriau a dysgu mwy am yr heriau maen nhw’n eu hwynebu. Unwaith yr oedd hi’n teimlo ei bod hi wedi manteisio i’r eithaf ar ei phrofiad yno, bu iddi hi a Paul Bayes-Kitcher, Cyfarwyddwr Artistig Fallen Angels Dance Theatre, fynd ati i gynnal y sesiynau dilynol yn y carchar.

Fallen Angels Logo.jpg
Surgical Mask

Fe gynhaliwyd gweithdai ac ymarferion llwyddiannus ynghyd â pherfformiad bu i bawb ei fwynhau i breswylwyr eraill a staff y carchar. Yn dilyn hynny bu i Eleni a Charchar Berwyn EM gychwyn ar eu trydedd gyfran o sesiynau ym mis Ionawr 2020. Fodd bynnag yn anffodus rhaid oedd eu gohirio oherwydd y coronafeirws. Ar gychwyn mis Ionawr, bu i Ymarferydd a Chydlynydd Prosiect Eleni, Claire, gyflawni hyfforddiant tebyg i Rachel gyda Fallen Angels Dance Theatre. Yna wedi hynny, bu i Claire a Rachel fynd ati i gynnal cyfres o sesiynau yn y carchar.

 

Yn ystod y sesiynau cyfredol (sydd wedi’u gohirio ar hyn o bryd), bu i’r ymarferwyr ac unigolion gydweithio mewn tair sesiwn yr wythnos ar y cyd â Chyfarwyddwr Artistig Fallen Angels Dance Theatre ac aelodau grŵp dawns Fallen Angels Dance Theatre, Risen. Yn ystod y sesiynau hynny, bu i’r grwpiau benderfynu ar ysgogiad ar gyfer y ddawns derfynol a bu iddyn nhw ddod i adnabod ei gilydd drwy rannu profiadau personol drwy ddawnsio. Yna bu seibiant o’r sesiynau ac yn anffodus bu’r pandemig ar droed ac felly roedd yn amhosib parhau gyda’r sesiynau. Ar ddiwedd y prosiect, bydd y grwpiau’n cydweithio’n ddyfal am dridiau i gau pen y mwdwl ar eu perfformiad er mwyn ei rannu gyda’u cyfoedion a staff Carchar Berwyn EM.

Dydy’r prosiect cyfredol heb ddod i ben yn gyfan gwbl, mae ond wedi’i ohirio am y tro. Rydym yn gobeithio y bydd modd parhau gyda gweddill y sesiynau a’r perfformiad terfynol yn nes ymlaen pan fydd amodau Iechyd Cyhoeddus yn caniatáu hynny. Fel rhan o’r bartneriaeth gwerthfawr gyda Fallen Angels Dance Theatre, byddan nhw’n parhau i gynnig yr elfen trosiannol ar gyfer dynion sydd newydd eu rhyddhau, unwaith y bydd gweithdai Fallen Angels Dance Theatre ar waith eto. Mae Cyfarwyddwr Artistig Eleni mewn cyswllt gyda Fallen Angels Dance Theatre a staff Carchar Berwyn EM ac maen nhw’n monitro’r sefyllfa. Pan fydd modd i breswylwyr gwrdd unwaith eto, yn amlwg fe fydd y grŵp o unigolion sy’n cymryd rhan yn wahanol a bydd hynny’n heriol. Fodd bynnag rydym yn sicr y bydd y rheiny sy’n cymryd rhan (cyfredol a newydd) a’r ymarferwyr yn achub ar y cyfle ac yn cynhyrchu dawns sydd yr un mor drawiadol ac atyniadol â’r ddawns flaenorol.

Modern Dancers
bottom of page