top of page

DUETS

tyfyn.jpg

Mae Eleni yn falch o fod mewn partneriaeth gyda Ballet Cymru ar y Rhaglen Genedlaethol Deuawdau. Gyda chyllid Sefydliad Paul Hamlyn a Chyngor Celfyddydau Cymru, mae Ballet Cymru wedi ymuno’n greadigol gyda phum sefydliad dawns cymunedol ledled Cymru i gynnig cyfleoedd i bobl ifanc gael hyfforddiant bale ysbrydoledig o’r radd flaenaf a’r holl fuddion a ddaw yn sgil hynny.

​

Yng ngogledd-ddwyrain Cymru, mae Amanda a Hanna, dwy o ymarferwyr proffesiynol Eleni yn gweithio yn Ysgol TÅ· Ffynnon, Sir y Fflint, yn dilyn dyddiau hyfforddi a gynhaliwyd iddynt gan Ballet Cymru er mwyn iddynt ymgyfarwyddo â chyflwyno’r sylabws bale creadigol. Yn ogystal â bod yn gyfle datblygiad proffesiynol parhaus gwerthfawr i’r ymarferwyr Eleni, bydd hefyd yn hwyluso cynnydd yn y graddau y bydd hyfforddiant bale ar gael ledled ein dalgylch, sef gogledd-ddwyrain Cymru. Mae Hanna, sydd â gwregys gwyrdd yn y ddisgyblaeth, hefyd wedi datblygu sylabws capoeira i’w addysgu ochr yn ochr â’r un bale. Unwaith roedd yr ymarferwyr wedi ymgyfarwyddo â’r sylabws bale, cynhaliwyd cwrs preswyl dri-diwrnod yn yr ysgol, ac yn dilyn hynny, cafodd 25 o blant, a oedd wedi dangos addewid mawr a chyflawni meini prawf penodedig y prosiect, eu dewis i gymryd rhan yn y rhaglen ysgoloriaeth ddwy-flynedd. Mae’r 25 disgybl hyn yn cymryd rhan mewn sesiynau bale a capoeira wythnosol yn ystod y tymor ysgol, gyda chrysau T ac esgidiau bale hefyd yn cael eu darparu. Mae’r adborth hyd yma gan yr ysgol a’r rhieni wedi bod yn gadarnhaol iawn hyd yma, gyda buddion fel dyheadau cadarnhaol a chynnydd mewn hyder yn cael eu crybwyll.

bc.jpg

Mae uchafbwyntiau eraill y rhaglen hyd yma yn cynnwys y rhanddeiliaid yn cael ymweliad gan ddawnswyr Ballet Cymru sydd wedi ymuno yn sesiynau bale a capoeira y diwrnod hwnnw o dan arweiniad Hanna ac Amanda, gyda thrip i Theatr Clwyd, yr Wyddgrug, i weld perfformiad gwefreiddiol Ballet Cymru o Romeo a Juliet. Ar ddiwrnod ymweliad dawnswyr Ballet Cymru, roedd y plant yn mwynhau gallu dangos rhai o’r symudiadau capoeira roeddent wedi eu dysgu, a dysgu rhywbeth yn ôl i’r gweithwyr proffesiynol!

​

Fel gyda’n holl brosiectau a dosbarthiadau eraill, mae’r rhaglen Deuawdau wedi gorfod cael ei gohirio yn ystod yr argyfwng coronafeirws, o leiaf yn ei ffurf bresennol. Fodd bynnag, er na all y cyfranogwyr ac arweinwyr y rhaglen gyfarfod yn bersonol, mae ymarferwyr Eleni a Ballet Cymru wedi bod yn cyflwyno cynnwys ar-lein, i gadw’r cyfranogwyr yn brysur a chynnal y cynnydd sydd wedi cael ei wneud hyd yma. Mae pawb yn edrych ymlaen yn fawr at yr amser pan gaiff y sesiynau gychwyn o ddifrif eto!

y.jpg

Yn ogystal â’r sesiynau dawns wythnosol, mae’r prosiect hwn yn cynnwys dyddiau hyfforddi, ysgol haf, cyrsiau preswyl dawns, cyfleoedd perfformio a gwerthuso, a’i nod terfynol yw creu/meithrin cariad at ddawns (yn enwedig bale) gan oresgyn rhwystrau a gaiff eu creu gan amgylchiadau economaidd, cymdeithasol a daearyddol. Bydd gwerthuso parhaus yn monitro’r prosiect yn ofalus a’i effaith ar y cyfranogwyr, er mwyn sicrhau eu bod yn cael y profiad gorau bosibl, a gwneud unrhyw welliannau angenrheidiol wrth ddatblygu’r cynllun yn y dyfodol. Mae hwn yn brosiect mor arbennig ac mae Eleni wrth eu bodd yn bod yn rhan ohono; hoffem ddiolch yn fawr i Ballet Cymru am ein gwahodd ni fel partneriaid iddynt, ac i Ysgol TÅ· Ffynnon am gymryd rhan. Am fwy o fanylion am y rhaglen Deuawdau yn ei chyfanrwydd, ewch i: https://duetsdancewales.com/duets-national-programme.

e.jpg
bottom of page