top of page

Teithiau Unigolion Cynllun Mentora Eleni

Yn ystod y cloi mawr aeth llawer iawn ati i dreulio mwy o’u hamser yn meddwl a myfyrio felly bu inni benderfynu mynd ati i fyfyrio hefyd… Daeth ein tîm arbennig o ymarferwyr Eleni ynghlwm â’r cwmni mewn sawl wahanol ffordd. Bu i rai gysylltu gyda ni ar ôl gweld hysbysiad, eraill drwy gyflawni gwaith ar ran mudiadau eraill gyda phobl eraill yn eu cyfeirio ar lafar a bu i eraill gydweithio gyda ni drwy gynllun mentora (dysgu “wrth weithio”).

 

Bu inni ofyn i ddwy o’n hymarferwyr wnaeth ymuno gyda Eleni drwy gynllun o’r fath i rannu eu profiadau nhw am y cynllun. 

Sut wnaethoch chi ddod i wybod am y cynllun mentora? Sut aethoch chi ati i geisio am le ar y cynllun?

​

Hanna: Roeddwn i’n aelod o Gwmni Dawns Ieuenctid Wrecsam am dros flwyddyn ac yn 2015, bu i’r Cyfarwyddwr Artistig ar y pryd gysylltu gyda mi a chynnig y cynllun mentora imi.

​

Rachel: Pan oeddwn i’n rhan o Gwmni Dawns Ieuenctid Eleni, fe wnes i gyfarfod Hanna oedd yn rhan o’r cynllun ar y pryd a bu iddi rannu manylion am y cynllun gyda mi. Fe ges i alwad ffôn gan Eleni yn rhoi gwybod imi am y cyfle a bu iddyn nhw ofyn oedd gen i ddiddordeb, gan fy mod yn ddawnswraig ffyddlon a brwdfrydig ar ran y cwmni. Roeddwn i ar ben fy nigon ac fe atebais fod gen i ddiddordeb yn syth bin.

Beth oedd eich disgwyliadau chi o gael eich mentora?

​

Hanna: Roeddwn i’n disgwyl ennill sgiliau gwerthfawr i ddod yn ymarferydd dawns llwyddiannus, i ddysgu mwy am y sector dawns yng Nghymru ac imi gael fy asesu o ran fy nghynnydd.

Oedd gennych chi berthynas dda gyda Eleni yn ystod eich cyfnod ar y cynllun mentora?

​

Rachel: Oedd!

​

Hanna: Oedd, heb os.

Ydy’r berthynas hon wedi’i chynnal a/neu ei ddatblygu ers i’ch cyfnod ar y cynllun mentora ddod i ben?

​

Rachel: Ydy, mae gen i berthynas da gyda Eleni hyd heddiw, ac mae wedi’i ddatblygu heb os. Rydw i erbyn hyn yn ymarferydd dawns i Eleni ac wedi cymryd rhan mewn sawl prosiect gyda nifer o ymarferwyr eraill. Rydw i’n cyflawni fy ngwaith yn ogystal â chymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol. Yn sgil hyn, rydw i wedi dod yn ffrindiau gyda gweithwyr eraill Eleni. Rydw i’n angerddol dros y mudiad a’i waith.

Sut fuoch chi’n cyfathrebu gyda’r cwmni, y rheiny oedd yn cymryd rhan yn y dosbarthiadau a gweithwyr proffesiynol eraill yn ystod eich cyfnod ar y cynllun mentora?

​

Rachel: Roeddwn i’n cyfathrebu dros y ffôn i gychwyn, i ddangos fy niddordeb a threfnu dyddiad ac amser ar gyfer cyfweliad anffurfiol gyda’r Cyfarwyddwr Artistig. Yna, wedi hynny, roeddwn i’n derbyn e-byst gyda fy amserlen a manylion cyswllt yr ymarferwyr roeddwn i am eu cysgodi. Roeddwn i’n cyfathrebu mwy gyda’r ymarferwyr hynny wrth i’n perthynas ddatblygu ac roedd mwy o gyfrifoldeb arna i. Roedden ni’n cyfathrebu drwy e-byst a negeseuon testun yn bennaf.

​

Hanna: Fe ges i gryn dipyn o gyfarfodydd wyneb yn wyneb gyda’r Cyfarwyddwr Artistig drwy gydol y cynllun mentora a phan nad oedd hyn yn bosib roedd galwadau ffôn misol a negeseuon testun wythnosol er mwyn gwirio fy nghynnydd. Roedden ni’n cyfathrebu’r rhan fwyaf drwy negeseuon testun, galwadau ffôn ac e-byst. Roedd hyn yn ddefnyddiol imi gan yr oedd yn fodd imi gadw gadw cyfrif o unrhyw ddiweddariadau pwysig.

Sut bu i’r cynllun mentora eich helpu i ddatblygu fel ymarferydd proffesiynol?

​

Hanna: Bu i’r cynllun fy helpu i ddatblygu drwy, yn gyntaf oll, fy nhrin i fel gweithiwr proffesiynol o’r cychwyn cyntaf. Roedd hyn yn hwb aruthrol i fy hyder wrth imi gychwyn ar fy nhaith o fod yn fyfyriwr graddedig i fod yn weithiwr proffesiynol. Roedd Eleni bob amser yn awyddus i gynnig cymaint o gyfleoedd â phosib imi, fel mynychu cyrsiau Hyfforddi Cymru Gyfan a chyrsiau DPP [Datblygiad Proffesiynol Parhaus]. Roedd y cyrsiau hyn yn help imi ddatblygu fy rhwydwaith yn y sector Dawns a’r Celfyddydau yng Nghymru.

Bu imi gysgodi pum ymarferydd, a phob un ohonyn nhw’n meddu ar dechnegau hyfforddi, strategaethau rheoli dosbarthiadau a sgiliau arwain cwbl wahanol i’w gilydd. Bu hyn yn help mawr imi bennu fy nhaith i a pha dechnegau gallwn i eu defnyddio wrth fy ngwaith. Fe gefais hefyd gyfle i gysgodi staff y swyddfa a chyflawni ychydig o waith gweinyddol. Bu hyn yn fodd imi ddysgu mwy ac ehangu fy ngwybodaeth am weithio mewn swyddfa.  

Sut bu i genhadaeth, nodau a gweledigaeth Eleni eich helpu gyda’ch gwaith fel ymarferydd?

​

Rachel: Bu iddyn nhw fy helpu i ddeall pwysigrwydd creadigrwydd mewn dosbarthiadau dawns cymunedol. Mae cynnig cyfle i rywun greu eu symudiadau eu hunain, neu fynegi eu hunain drwy ddawnsio yn y fan a’r lle yn fendigedig. Mae’n fodd i’r dawnswyr feddiannu’r ddawns neu yn fodd iddyn nhw gyfathrebu mewn gwahanol ffyrdd a gall hynny fod yn therapiwtig. Byddan nhw’n teimlo fel eu bod nhw wedi llwyddo i gyflawni rhywbeth ac wedi mynegi eu hunain.

Bu i Eleni fy nysgu i fod y broses yr un mor bwysig â’r cynnyrch ac mewn rhai achosion yn bwysicach. Mae llwyddo i ddenu plant gaiff eu hystyried yn rhai gydag ymddygiad gwael, i gymryd rhan mewn dosbarth dawns, ennill sgiliau newydd, mynegi eu hunain drwy symud yn greadigol a pherfformio ar lwyfan gerbron cynulleidfa gyda’u cyfoedion, yn gamp. Doedd dim ots sut oedd y ddawns ei hun o ystyried hyn i gyd.

Ydy’r cynllun mentora wedi eich helpu i ddatblygu sgiliau o ddydd i ddydd fel cadw at amser, cwblhau gwaith yn brydlon a sgiliau cyfathrebu?

​

Rachel: Ydy, 100%. Cadw at derfynau amser y daflen dechnegol, gofalu bod y ddawns wedi’i chwblhau erbyn yr amser wedi’i neilltuo, caniatáu amser i ymarfer, gofalu fod y gerddoriaeth wedi’i threfnu… hyn oedd rhan fwyaf heriol y cynllun mentora a fy ngwaith fel ymarferydd wedi hynny.

​

Hanna: Ydy, fel unigolyn wedi fy mentora, roedd angen imi ddysgu sut i fod yn drefnus yn fuan iawn gan yr oedd pob diwrnod yn wahanol ac roedd yn rhaid imi ofalu fy mod yn neilltuo digon o amser i deithio o un man i’r llall. Fe wnes i hefyd ddysgu sut i addasu’n gyflym a datrys problemau yn y fan a’r lle gan yr oedd sefyllfaoedd a threfniadau’n dueddol o newid pob awr.

Oeddech chi’n teimlo eich bod wedi cyflawni eich nodau fel unigolyn wedi’i fentora? Sut bu i Eleni eich helpu chi i ddatblygu yn eich gwaith?

​

Hanna: Oeddwn, rydw i’n teimlo fel fy mod i wedi cyflawni fy nod fel unigolyn wedi fy mentora, a thu hwnt fel ymarferydd dawns. Bu i Eleni fy nghyflwyno i brofiadau newydd sbon danlli pan wnes i gychwyn ar y cynllun mentora. Fe wnes i ymddiried yn Eleni yn ystod fy nghyfnod fel unigolyn wedi fy mentora ac rydw i’n teimlo erbyn hyn bod Eleni yn ymddiried ynof i fel ymarferydd dawns. Fe wnes i gychwyn Cwmni Dawns Ieuenctid dwyieithog yn Sir Ddinbych yn 2019 ac mae’r cwmni yn dal yn bodoli hyd heddiw.

Wnaeth y cynllun mentora eich helpu i baratoi at y byd gwaith yn effeithiol fel unigolyn newydd raddio?

​

Rachel: Heb os – roedd cychwyn ar waith fel ymarferydd dawns yn teimlo imi fel gorfod wynebu mynydd nad oedd syniad gen i sut i’w ddringo!! Roedd yn rhyddhad pan ges i’r cyfle oherwydd roedd yn ymddangos fel y cyfle perffaith imi bontio’r bwlch rhwng graddio a chychwyn gweithio fel ymarferydd dawns. Yna bu sefydlu rhwydwaith, codi fy hyder wrth gynnal gweithdai a chynnig cyfleoedd imi fanteisio arnyn nhw’n help imi ddatblygu’n effeithiol.

Fuasech chi’n argymell Cynllun Mentora Eleni i eraill? Sut fuasech chi’n crynhoi’ch profiad chi mewn ychydig eiriau? 

​

Hanna: Buaswn, fe fuaswn bendant yn argymell cynllun mentora Eleni gan yr oedd yn help i fy ffurfio fel ymarferydd dawns. Fe wnes i fanteisio ar lawer iawn o gyngor hynod werthfawr a chydweithio gyda thîm hwyl a chyfeillgar. 

​

Rachel: Fuaswn i’n argymell y cynllun mentora i unrhyw un, unrhyw bryd. Bu iddo fy ffurfio i fod yn ymarferydd dawns a oedd yn teimlo’n barod i fynd i’r afael â phrosiectau ar liwt fy hun. Mae’r rhan fwyaf o fy sgiliau a fy arddull fel athrawes yn sgil y cynllun a’r cyfleoedd ges i fanteisio arnyn nhw yn dilyn hynny. Bu rhai o’r cyfleoedd gefais fanteisio arnyn nhw yn uchafbwyntiau fy ngyrfa dawns hyd yn hyn, ac mae’n deillio o’r cynllun a’r berthynas gwych wnes i ei ddatblygu a’i gynnal gyda Eleni.

bottom of page