Prosiect Dance United
Mae Dance United Swydd Efrog (DUY) yn Gwmni Buddiant Cymunedol (CIC) yn Bradford. Fel rhan o’r prosiect ar y cyd hwn, wedi’i ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru, bydd tîm creadigol DUY yn cynnal hyfforddiant ar gyfer ymarferwyr Eleni. Yn dilyn yr hyfforddiant bu Cynllun Carfan llawn amser am gyfnod o bum wythnos ar gyfer pobl ifanc o Wrecsam sydd ddim yn y byd addysg, yn ddi-waith a ddim yn manteisio ar hyfforddiant (NEET).
Bydd y cynllun yn ymdrin â methodoleg dysgu sy’n addasiad grymus o hyfforddiant dawnsio cyfoes a phroffesiynol. Bydd hyn yn arwain tuag at berfformiad cyhoeddus proffesiynol o safon. Mae’r gwaith yn heriol, yn gyfyngol ac yn hynod ddisgybledig. Ni chaiff y bobl ifanc eu hyfforddi fel dawnswyr o reidrwydd, yn lle hynny caiff dawns ei ddefnyddio fel catalydd ar gyfer newid personol radical a pharhaus. Bydd y gwaith yn llwyddo pan fydd y cydweithio corfforol, emosiynol a deallusol gofynnol yn cynnig modd i’r unigolyn deimlo gwir deimlad o reolaeth a phwrpas, hunangred a balchder yn eu cyflawniad.​
Mae Eleni yn edrych ymlaen at gydweithio gyda DUY ar brosiect sy’n golygu gwerth etifeddiaeth amlwg i Eleni a phobl ifanc yng ngogledd ddwyrain Cymru.