top of page

Coronafeirws a’r Effaith ar Eleni

Office Desk

Rwyf yn ysgrifennu’r erthygl hon o’m cegin gan fy mod, fel miliynau o bobl eraill ledled Prydain ac yn wir ledled y byd, yn gweithio o’m cartref am y dyfodol rhagweladwy, yn sgil y sefyllfa ryfedd a achoswyd gan y coronafeirws (Covid-19). Mae hyn yn effeithio’n benodol ar Eleni gan fod ein swyddfa yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy, sydd wedi cael ei haddasu’n ysbyty dros dro mewn ymateb i’r sefyllfa iechyd cyhoeddus bresennol. Mae’r sefyllfa hon sy’n newid yn barhaus wedi achosi llawer o ansicrwydd i bawb, ac yn yr erthygl hon, byddaf yn ceisio esbonio’r effaith mae wedi’i gael ar Eleni.

I’r rheini ohonoch nad ydych yn gyfarwydd â Eleni, rydym yn sefydliad datblygu dawns sydd ar waith yng ngogledd-ddwyrain Cymru, yn benodol Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam. Pan fyddaf yn cyfarfod pobl newydd ac yn dweud wrthynt fy mod i’n weinyddwr sefydliad datblygu dawns, nid yw’n anghyffredin cael golwg syn fel ymateb, ac os dyma yw eich adwaith chi hefyd, nid chi yw’r unig un! O’i ddiffinio’n syml, rydym yn elusen gofrestredig ac yn gwmni wedi’i gyfyngu trwy warrant, gyda refeniw’n cael ei gyllido gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Rydym yn sefydliad bach, ond mae gennym nodau uchelgeisiol ac rydym yn cael effaith sylweddol ar yr unigolion a’r grwpiau’r ydym yn gweithio â hwy. Rydym yn cynnal dosbarthiadau dawns mynediad agored (cyhoeddus), ond rydym yn gweithio hefyd gyda grwpiau cymunedol penodol i gynnig cymaint â phosibl o gyfleoedd i ddawnsio. Rydym yn cynnal gweithdai a phrosiectau gydag ysgolion, ysbytai, cartrefi gofal, grwpiau ieuenctid a charchardai, gan rannu’n cariad o ddawns a dangos buddion corfforol a meddyliol y gweithgaredd hwn.

Dance Class
Doctor with Files
At the Supermarket
Teacher and Blackboard
Truck and Warehouse

Wrth gwrs, mae’r mesurau a gyflwynwyd gan y llywodraeth i arafu lledaeniad y coronafeirws yn golygu na all ein dosbarthiadau, gweithdai a phrosiectau fynd ymlaen, o leiaf ar hyn o bryd. Er bod hyn yn hynod siomedig i ni a’n cyfranogwyr, rydym yn llwyr gydnabod ac yn cefnogi pwysigrwydd dilyn cyfarwyddiadau’r llywodraeth i aros adref er mwyn amddiffyn y Gwasanaeth Iechyd ac achub bywydau. Hoffem fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch yn fawr, ar ran pawb yn Eleni, i ddiolch i’r holl weithwyr allweddol hynny y bydd eu hymroddiad a’r gwaith caled yn sicrhau ein bod ni’n goroesi’r argyfwng hwn.

Mae’r ‘lockdown’ yn cael effaith na fyddech chi efallai’n ei sylweddoli. Mae ymarferwyr Eleni sy’n mynd allan i’r gymuned i gyflwyno’n dosbarthiadau, gweithdai a phrosiectau yn artistiaid dawns llawrydd; mae Bwrdd Ymddiriedolwyr a Chyfarwyddwr Artistig Eleni wedi sicrhau’r ymarferwyr y bydd tâl am waith sydd heb ei gwblhau a oedd eisoes wedi ei gontractio iddynt yn cael ei anrhydeddu, ond gyda sefyllfa mor ddieithr ac ansicr, mae angen mwy o ddarpariaeth hirdymor ar gyfer ein hymarferwyr. Os ydych chi’n ddigon ffodus i fod mewn sefyllfa i gefnogi’r genhadaeth hon, byddem yn ddiolchgar iawn am eich cymorth. Gallwch wneud cyfraniad trwy glicio yma. Diolch yn fawr ymlaen llaw.

Jumping Dancer
Modern Laptop

Mae’r tîm craidd yn dal i weithio o bell, felly os oes gennych chi unrhyw sylwadau neu ymholiadau, byddem yn falch iawn o glywed gennych! Gallwch e-bostio info@newdance.org.uk neu gysylltu trwy’n tudalennau Facebook neu Twitter.

Un gair i orffen – yn ystod amserau poenus, ansicr a gofidus, gall dawns fod yn ffordd wych o roi eich sylw ar rywbeth arall, cael rhywfaint o ymarfer corff, a rhyddhau’r endorffinau sy’n peri ichi deimlo’n dda. Er nad ydych chi’n gallu mynd yn gorfforol i sesiynau dawnsio, pwyswn ar bawb a all wneud hynny’n ddiogel i chwarae rhywfaint o’u hoff gerddoriaeth a chadw llawenydd dawns i fynd yn eu cartrefi eu hunain. Mae’r tîm yn dod â’u pennau creadigol at ei gilydd i feddwl am ffyrdd newydd i gyflwyno dawns ar-lein ac oddi ar lein, felly cadwch lygad am unrhyw ddiweddariadau!

 

Edrychwn ymlaen yn fawr at yr amser pan allwn ni ddawnsio’n bersonol gyda chi eto. Yn y cyfamser, cadwch yn ddiogel (ac arhoswch adref!).

​

Gyda dymuniadau gorau at bawb ohonoch,

Tîm Eleni.

Senior Woman Dancing
bottom of page