Yn dod i 2022
Curiad II
Mudo II
Y llynedd arweiniodd Eleni brosiect deg wythnos gyda grŵp byddar/dall yn Wrecsam. Roedd y grŵp yn ysu am barhau â’r gwaith yn y tymor hir.
Felly, bydd Curiad 2 yn rhaglen o sesiynau blwyddyn o hyd i ddatblygu ymhellach y gwaith arloesol a ddechreuwyd gyda'r gymuned hon.
Byddai'r prosiect yn cadw ei fethodoleg traws-gelfyddyd (dawns ac ysgrifennu creadigol/cerddoriaeth), i ddatblygu'r gwaith a ddechreuwyd y llynedd ymhellach.
Bydd Eleni yn cynnig cyfleoedd cysgodi pwrpasol i ymarferwyr sy’n dymuno datblygu ymarfer gyda’r gymuned unigryw hon.
Y llynedd, gweithiodd Eleni yn ddwys gyda grŵp dawns gymunedol Palops, gan eu helpu i strwythuro dosbarthiadau, datblygu eu hymarfer addysgu a chreu darnau perfformio.
Gofynnodd pob grŵp i barhau i weithio gydag Eleni am gyfnod hwy o amser, i ddatblygu offer/sgiliau addysgu ymhellach, helpu i wneud cynnwys perfformiad pellach a thyfu eu geirfa symud. Mynegodd rhai grwpiau ddiddordeb hefyd o gael cymorth i ddatblygu sesiynau dawns gymunedol mynediad agored.
Bydd Mudo 2 yn galluogi Eleni i aeddfedu'r berthynas â grwpiau o'r gorffennol. Cynnig nifer o oriau neilltuedig i’r grwpiau hyn y gallant eu defnyddio i ymgysylltu ag Eleni yn ôl eu disgresiwn yn ystod y flwyddyn. Hy wrth weithio tuag at greu perfformiad newydd, yn dymuno cael mwy o fewnwelediad i wneud coreograffi newydd, ehangu geirfa symud.
Byddai Eleni yn ymgysylltu â dau grŵp newydd sbon sydd wedi mynegi awydd cryf i gymryd rhan yn y rhaglen hon.
Gofod
Prosiect ymchwil ac ymgynghori ar Ddawns Iau ac Ieuenctid, a llwybrau gyrfa ar gyfer datblygu ymarferwyr dawns cyfrwng Cymraeg.
Mae Eleni yn awyddus i sicrhau cynaladwyedd y sector, trwy ddatblygu llwybrau ar gyfer artistiaid dawns y dyfodol, felly bydd y darn hwn o waith yn galluogi’r mudiad i ddeall sut y gall y mudiad ddatblygu ymarferwyr cyfrwng Cymraeg a’u cadw yn y rhanbarth.
Cyswllt
Prosiect dawns a cherddoriaeth ar gyfer y rhai ag anghenion ychwanegol, heriau iechyd meddwl, pobl ifanc 'mewn perygl' a theuluoedd wedi'u hadsefydlu.
Casglwyd y partneriaid a amlinellir yn y llinyn hwn o ganlyniad i weld effaith ymgysylltiad Eleni â'u cyfranogwyr, trwy'r prosiect Dawnsio gyda Deinosoriaid neu ymgysylltu â rhanddeiliaid trwy raglen ehangach o weithgareddau Eleni.
Mae'r syniadau ar gyfer y prosiect hwn wedi'u datblygu'n uniongyrchol gyda'r partneriaid a'r cyfranogwyr a nodir yn y llinyn hwn.
Mae’r iaith Gymraeg a’i diwylliant wedi’u plethu ym mhob maes, gan fanteisio ar bartneriaethau newydd a luniwyd yn y maes hwn i helpu Eleni i adeiladu’n ffurfiol ar ei gwaith blaenorol yn y maes hwn.