Eleni & Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen (LIME)
Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yw un o uchafbwyntiau calendr Eleni. Mae’r ŵyl aml-ddiwylliannol a llawen hon, sy’n llawn o gerddoriaeth, cân a dawns o bedwar ban byd, yn cael ei chynnal yn flynyddol yn nhref hardd a hanesyddol Llangollen yn sir Ddinbych, yn ystod wythnos gyntaf mis Gorffennaf.
Yn anffodus, fel gyda chymaint o ddigwyddiadau eraill a drefnwyd ar gyfer eleni, bu’n rhaid gohirio’r Eisteddfod am y tro. Gan na fydd gŵyl 2020 yn digwydd y mis nesaf, rydym wedi penderfynu edrych yn ôl ar ddathliad heulog y llynedd, ac esbonio ychydig am sut mae Eleni yn cymryd rhan yn y digwyddiad gwirioneddol ryfeddol hwn.
Credyd: LIME Facebook
Mae gan bob diwrnod o’r ŵyl ei thema ei hun – mae themâu yn y gorffennol wedi cynnwys “Harmoni mewn Amrywiaeth”, “Uno Cenhedloedd mewn Cerddoriaeth” ac “Chwilio am Heddwch Gyda’n Gilydd”, ac mae ymarferwyr Eleni yn arwain sesiynau dawns agored i’r cyhoedd yn seiliedig ar y themâu hyn i’r ymwelwyr â’r Eisteddfod. Bydd rhai yn ymuno am ychydig funudau, bydd eraill yn aros am yr awr gyfan, ac mae’n well gan rai eistedd a gwylio gan dapio troed i’r gerddoriaeth – ond mae pawb yn cael amser gwych! Mae teuluoedd, ffrindiau, grwpiau ysgol, a grwpiau perfformio a chystadlu o bob rhan o’r byd yn dod at ei gilydd ar un o lwyfannau’r maes ac yn cael hwyl yn dawnsio gyda’i gilydd.
Y llynedd, fe wnaeth Eleni groesawu tua 200 o bobl o bob oed i ymuno â’n gweithdai yn ystod yr wythnos (gan fy nghynnwys i, sydd â’m rôl arferol gyda Eleni ar gyfrifiadur, nid mewn sesiwn ddawns, gan brofi nad oes dim cydberthynas rhwng profiad o ddawns a’r gallu i’w fwynhau!)
Eleni, mae pwyllgor Eisteddfod Ryngwladol Llangollen wedi trefnu ffordd wahanol i gyfranogwyr, perfformwyr, ymwelwyr a gwirfoddolwyr o bob rhan o’r byd gadw mewn cysylltiad â’i gilydd heb adael eu cartref. Ar y cyd â Rondo, bydd llwyfan Llangollen.TV yn dangos archifau o flynyddoedd a fu, gyda’r gynulleidfa’n gallu pleidleisio dros eu hoff foment o’r Eisteddfod mewn amrywiol gategorïau, megis Corau Cymysg a Chystadlaethau Dawns. Bydd enillwyr o bob categori yn cael eu cyhoeddi bob dydd yn ystod wythnos yr Eisteddfod (7fed-11eg Gorffennaf). Pam na wnewch chi gymryd rhan a phleidleisio dros eich ffefryn? Ewch i https://llangollen.tv/ – mae’r pleidleisio ar agor tan 30ain Mehefin.
Yn ogystal â’r deunydd o’r archif, bydd comisiynau newydd ar gyfer Eisteddfod 2020 yn cynnwys llinellau gan y bardd o fri, Mererid Hopwood: “Heddwch a Harmoni: Byd gwâr yw ein byd o gân”.
Credyd: LIME
Meddai Cyfarwyddwr Artistig Eisteddfod Ryngwladol Llangollen, Edward-Rhys Harry: “Fel arfer, ar yr adeg hon o’r flwyddyn, mae pawb wrthi’n brysur yn cael popeth yn barod mewn pryd erbyn yr Eisteddfod, ac rydym wedi cael llawer o negeseuon gan gystadleuwyr a chefnogwyr yng Nghymru a thramor yn dweud cymaint y maen nhw’n ein colli ni a’r profiad. Ym mis Chwefror, fe wnaethom gynnal gweithdy dawns rhyngwladol gwych am ddiwrnod i’r teulu o dan arweiniad NEW Dance, ac roedd yn gymaint o hwyl i’r rheini a ddaeth iddo fel bod arnyn nhw eisiau mwy ac roedd arnom ninnau eisiau gwneud mwy. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda Eleni eto a’ch gweld chi i gyd yn fuan.”
​
Dyma fideo o’r diwrnod rhyngwladol hwnnw, a drefnwyd gan Eisteddfod Ryngwladol Llangollen o dan arweiniad Eleni yn NhÅ· Pawb yn Wrecsam: https://www.facebook.com/119653461399706/videos/679350292601463/
Credyd: LIME
Nid yw Eisteddfod Gerdd Ryngwladol Llangollen, a gynhaliwyd gyntaf ym 1947, erioed wedi’i ganslo yn ei hanes 73 mlynedd, a gwyddom fod yn rhaid iddo fod yn hynod siomedig i’w fyddin fach o drefnwyr a gwirfoddolwyr orfod cymryd y cam hwn, nid i sôn am y degau o filoedd o gyfranogwyr, perfformwyr ac ymwelwyr na fyddant yn teithio i'r ŵyl eleni. Mae Eleni yn falch o fod yn gysylltiedig â LIME - rydym yn dymuno'r gorau iddynt gyda'u dathliadau amgen ar gyfer 2020, ac yn gobeithio y bydd y flwyddyn nesaf yn fwy ac yn well nag erioed!
I gael mwy o wybodaeth am yr ŵyl, ewch i https://international-eisteddfod.co.uk/