top of page
Dance Lesson

Case Studies

eleni-background.jpg
Image by Catrin Ellis

Dawns efo'r Teulu - Cwrs Cymraeg

Gwella gallu tîm Eleni i ddefnyddio’r iaith Gymraeg

Fel sefydliad sy’n gweithredu yng Nghymru, mae Eleni eisiau helpu pob aelod o’r tîm deimlo eu bod yn gallu defnyddio’r iaith Gymraeg yn hyderus lle bynnag bo’n bosibl.

​

Dros gyfnod o chwe wythnos, bu i Ymarferydd Dawns a Chydlynydd Prosiect Eleni, sy’n ddwyieithog ac yn dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, gynnal cyfres o weithdai oedd yn canolbwyntio ar ddawns drwy gyfrwng y Gymraeg ym mis Chwefror a mis Mawrth 2021 i rai o’n hymarferwyr dawns llawrydd sydd ddim yn siarad Cymraeg yn rhesymol o rugl eto. Cafodd y sgiliau hyn yna eu cyfuno drwy gynnig gweithdai dawns i’r teulu ar-lein drwy gyfrwng y Gymraeg, ar thema anifeiliaid y jyngl.

​

Gyda Eleni yn gweithredu yng ngogledd-ddwyrain Cymru, a bod diffyg ymarferwyr dawns sy’n dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg, mae’r sefydliad yn awyddus i hyrwyddo a defnyddio’r iaith Gymraeg lle bynnag bo’n bosibl. Trwy ddysgu ac atgyfnerthu’r geiriau, dywediadau a strwythurau brawddegau hyn, bydd ein hymarferwyr dawns yna’n hyderus i ddefnyddio’r Gymraeg yn amlach ac yn fwy rheolaidd wrth ddarparu sesiynau dawns ar draws gogledd-ddwyrain Cymru.

Rydym yn gobeithio y bydd hyn, yn ei dro, yn annog y rheiny sy’n cymryd rhan mewn gweithgareddau Eleni i deimlo’n fwy hyderus wrth glywed a defnyddio’r iaith Gymraeg, ac annog mwy o blant a phobl sy’n siarad Cymraeg ymuno gyda ni.

​

Prif Ddeilliannau:

•           Mwy o allu a hyder o fewn tîm Eleni wrth ddefnyddio’r Gymraeg

•           Hyrwyddo’r iaith Gymraeg yng Nghymru

•           Mwy o ddarpariaeth o wersi dawns drwy gyfrwng y Gymraeg i siaradwyr Cymraeg yng ngogledd-ddwyrain Cym

​

Dechreuodd Claire ar ein hymgais o ddysgu Cymraeg drwy arwain y gweithdy dwyieithog y byddwn ni yn ei ddarparu yn y pendraw, a bu inni ‘gymryd rhan’ ynddo. Roedd yn ffordd wych o ddechrau’r sesiynau oherwydd roedd yn dangos inni beth oedd ein nod yn y pendraw, ond hefyd yn caniatáu inni weld bod posibl ei wneud ac yn ein galluogi ni i sylweddoli faint oeddem ni eisoes yn ei ddeall.

​

Cafodd y wers ei dysgu fesul adran, ac mewn ffordd oedd yn hawdd iawn ei mewnoli. Roeddwn i’n gweld fy hun yn gadael y sesiynau awr yn deall ac yn cofio’n iawn beth oedd ffocws y wers honno. Hyd yn oed yn ystod wythnosau lle’r oeddwn i’n brysurach gyda phethau eraill, roedd y ddeialog a’r strwythur yn aros gyda mi.

​

Aeth Claire â ni drwy ymarferion atgofion corfforol penodol, oedd wedi’u dewis gan eu bod wedi’u profi i’ch helpu chi gofio mwy na phe baech chi’n darllen neu ysgrifennu’r wybodaeth yn unig, ac roedd yn ymddangos bod hynny’n wir.

Yn ystod y gweithdy Cymraeg gyda'r teuluoedd, roeddwn i mor hapus gyda faint o gynnwys y wers oeddwn i wedi’i fewnoli ac oedd yn dod yn naturiol imi drwy gydol y gweithdy. Fe wnaeth y plant a’r teuluoedd ymateb yn hynod o dda i’r gemau a’r ymarferion symud ac roedd hi’n amlwg eu bod nhw wedi mwynhau eu hunain.

​

Y darn mwyaf heriol oedd gweithio ar-lein gyda chyd-arweinydd. Roedd ychydig o broblemau technegol gyda’r gerddoriaeth gan fod hyn yn ffordd newydd o weithio, ond ni wnaeth hynny ddifetha hwyl y gweithdy ac roeddem ni wedi gallu datrys y broblem.

​

Roeddwn i’n gweld y ffordd yma o wella fy Nghymraeg yn un cadarnhaol iawn.

Ymarferydd Dawns

 

Tai Chi in Motion

Eleni yng Ngharchar Berwyn EM

Bu i Eleni gydweithio gyda Charchar Berwyn EM yn Wrecsam i gynnig cyfleoedd dawnsio a pherfformio i’r preswylwyr.

Ym mis Chwefror 2018, aeth Eleni ati i gynnal ein prosiect ar y cyd cyntaf gyda Charchar EM Berwyn, sef carchar i ddynion yn Wrecsam. Fe sefydlwyd y prosiectau i gynnig cyfle i’r preswylwyr gymryd rhan mewn gwersi dawnsio a pherfformio darn wedi’i greu gan y grŵp ger bron eu cyfoedion a staff y carchar. Diben y prosiectau ydy hyrwyddo lles corfforol a meddyliol ymysg y preswylwyr ynghyd â’u cynorthwyo i roi hwb i’w hyder a datblygu sgiliau fel ymroddiad, gweithio mewn tîm a gwytnwch. At hyn, mae’r prosiectau yn cynnig profiad newydd sbon i sawl un ohonyn nhw sydd o bosib heb roi cynnig ar ddawnsio cyn hynny.  

​

Mae amgylchedd y carchar, yn ôl ei natur, yn golygu amgylchiadau unigryw i weithio ynddo, ond bu i’r ymarferwyr dawnsio fwynhau’r cyfle’n fawr. Bu i un o’r ymarferwyr ddisgrifio’r profiad fel uchafbwynt eu gyrfa hyd yn hyn. Y prif drafferthion ynghlwm â’r prosiect ydy’r rheolau cyfyngol ond hanfodol ynghylch dod â chyfarpar i’r carchar, a natur dros dro’r boblogaeth o breswylwyr.

​

Dengys adborth gan y rheiny wnaeth gymryd rhan bod nodau’r prosiect wedi’u cyflawni ar gyfer nifer ohonyn nhw  - bu inni dderbyn sylwadau fel “…roedd yn fodd inni gyd ddod ynghyd”, “Roeddwn i’n teimlo ychydig yn anghyfforddus i gychwyn ond fe wnes i fwynhau cyn pen dim”, a “daeth â gwen i fy ngwyneb”.

​

Prif Ddeilliannau:

•           Perfformiad gan y rheiny sy’n cymryd rhan ger bron eu cyfoedion a’r staff yng Ngharchar Berwyn EM

•           Partneriaeth gyda Theatr Dawns Fallen Angels i gynnig llwybr o ddawnsio yn y carchar i ddawnsio yn y gymuned

•           Mwy o hyder a mwy o weithio fel tîm ymysg y preswylwyr sy’n cymryd rhan

​

Bu inni gynnal cyfarfodydd cynllunio cyn ac ar ôl pob sesiwn gan sicrhau ein bod yn teimlo’n drefnus ac yn barod. Bu inni lwyddo i gynnal y gweithdai yn ddidrafferth a phroffesiynol gyda nodau ac amcanion eglur. Bu inni gyfathrebu’n dda gyda’n gilydd a manteisio ar syniadau gan y ddau ohonom ni. Yn ogystal, aethom ati i gymryd tro i arwain tasgau penodol fel nad oedden ni na’r rheiny oedd yn cymryd rhan yn llaesu dwylo ynghylch ansawdd y gwaith roedden ni’n ei gyflawni.

​

Roedden ni’n hyblyg a bob amser yn herio unigolion newydd i ddatblygu a chyrraedd lefel y dosbarth yn hytrach na dychwelyd i gynnal sesiynau sylfaenol pob wythnos. Fe welsom ddatblygiad sylweddol yn ystod y cyfnod byr yr oedden ni yno. Soniodd rhai o’r unigolion mai’r gweithdai oedd uchafbwynt eu hwythnos.

​

Roedd y sesiynau dwy awr yn egnïol dros ben, a doedd dim amser i’r lefelau cymryd rhan ac egni ostwng. Roedd yr unigolion yn ynghlwm 100% ac aethon nhw ati’n frwd i gyflawni’r tasgau, yn aml yn gofyn am gael cynnig arall arnyn nhw neu’n gofyn am ymarferion penodol.

​

Yn dilyn y sylwadau a’r adborth gan y rheiny wnaeth gymryd rhan, gwyddom y bu i’r gweithdai eu hysbrydoli. Bu inni eu hannog i gysylltu eu symudiadau gydag emosiwn, gair llafar a delweddau ac roedden nhw’n hoff o’r gwaith cyswllt, y gwmnïaeth a’r bwrlwm yn sgil y gwaith tîm.

​

Fe gyflwynwyd y darn terfynol i gyfoedion yr unigolion a’r staff yn y carchar ac roedden nhw wrth eu bodd gan sôn bod gwaith caled ac ymroddiad y grŵp yn gwbl amlwg.

​

Rydym yn edrych ymlaen at allu parhau gyda’r gyfres o sesiynau nesaf, unwaith i’r sefyllfa iechyd cyhoeddus wella.

Ymarferwyr Dawns

bottom of page