Sesiynau Datblygu Proffesiynol Parhaus i Ymarferwyr
Yn debyg i unrhyw dîm sy’n wynebu heriau ynghlwm â gweithio o bell yn sgil y pandemig coronafeirws, bu inni yma yn Eleni geisio gofalu ein bod ni i gyd yn parhau i gadw mewn cyswllt, yn rhithiol os nad wyneb yn wyneb. Bu’r naw mis diwethaf yn ansicr ac yn boen meddwl i lawer iawn o bobl, yn enwedig gweithwyr y sector celfyddydau. Felly roedd yn nod gennym ni i helpu gofalu am iechyd meddwl a llesiant ein hymarferwyr.
Oddeutu unwaith y mis, bu i aelodau’r tîm gynnal sesiwn codi calon ar-lein yn eu tro gan ddefnyddio’u sgiliau i rannu syniadau ac addysgu ac ysbrydoli eu cydweithwyr. Hyn oedd wrth wraidd y sesiynau ond roedd yn gyfle gwych i bawb gysylltu ac ymwneud gyda’i gilydd gan gymryd rhan mewn gweithgareddau roedden ni i gyd yn angerddol yn eu cylch hefyd!
​
Gyda dyfodiad y degfed mis o weithio o bell, bu inni benderfynu bwrw golwg arall ar rai o’r sesiynau hyn a rhannu’r hynny wnaethon ni eu mwynhau amdanyn nhw a sut oedden nhw’n ddefnyddiol inni. Bu inni hefyd ystyried rhannu ychydig o syniadau gyda thimau o gwmnïau eraill i fynd ati i hybu ac ysgogi eu gweithwyr nhw!
Yn ein sesiwn gyntaf, bu i ein Cyfarwyddwr Artistig, Angela gynnal cwis am ba mor dda oedden ni’n adnabod ein gilydd. Y nod oedd darganfod mwy am ein gilydd, er mwyn inni allu cefnogi lles ein gilydd yn fwy effeithiol yn ystod adeg a oedd yn (ac sydd yn dal yn) anodd. Bu’r gweithgaredd ar ffurf cwis fel nad oedd yn rhy drwm a ffurfiol, ond roedd yn dal yn fodd o’n dwyn ni ynghyd fel tîm (er ar sgrin) am y tro cyntaf mewn ychydig fisoedd.
​
Yn y sesiwn nesaf bu inni fwynhau Zumba®, o dan arweiniad Patricia, lle’r oedd yn rhaid i bawb godi ar eu traed a symud. Roedd gwen ar wyneb pawb ac roedd yn gyfle i bawb ail-ystwytho’r cyhyrau a’r meddwl.
Yna bu i Hanna gymryd yr awenau gyda sesiwn Clubbercise® , gweithgaredd â thipyn o fynd ynddo i’r rheiny ohonom oedd yn colli ein dosbarthiadau ymarfer a sesiynau cadw’n heini rheolaidd.
​
Tro Rachel oedd hi nesaf, ac fe roddodd hithau gyflwyniad gwych am ei gwaith hi a Claire, ymarferydd dawns arall, gyda phreswylwyr Carchar Berwyn EM nes y cloi mawr (rydym yn bwriadu parhau gyda’r prosiect unwaith y bydd amodau iechyd cyhoeddus yn caniatáu). Roedd yn ddifyr clywed am yr agweddau cadarnhaol a’r heriau ynghlwm â’r gwaith ac yn fendigedig clywed cymaint oedd y preswylwyr yn mwynhau’r sesiynau.
Yna aeth Helen ati i gynnig cyflwyniad gyda dau ran iddi am bwnc a oedd erbyn hynny wedi dod yn hen arferiad i bawb bron – sef cynnig gweithgareddau ar-lein (felly cynnig sesiynau dawns ar-lein i Eleni). Bu i Helen ymdrin â ffactorau ymarferol, technegol a meddyliol a bu i’w chyflwyniad llawn gwybodaeth a threfnus ein hennyn i ystyried llawer o agweddau!
​
Daisy oedd yn gyfrifol am y sesiwn nesaf a bu iddi rannu ymarfer da wrth gydweithio, sydd wedi dod yn fwyfwy cyffredin yn enwedig ym myd y celfyddydau, yn yr hinsawdd sydd ohoni. Gan gydweithio gyda gwahanol bobl neu fudiadau, mae modd i artistiaid fanteisio ar eu sgiliau a phrofiad ar y cyd mewn amryw feysydd i gefnogi gwaith ei gilydd a chynnig deilliannau cadarn ac effeithiol mewn amgylchiadau heb ei debyg o’r blaen.
Rachel oedd yn gyfrifol am ein sesiwn ddiweddaraf a bu iddi gynnal gwers dawns Affricanaidd. Roedd yn andros o hwyl ac yn ffordd hyfryd a chyffrous o dreulio prynhawn Gwener. Fel gweinyddwr yn hytrach na dawnswraig, roedd yn rhaid imi symleiddio’r camau imi fy hun mymryn, ond wnes i fwynhau’n fawr iawn yr un fath!
​
Ac yn olaf, gathon ni ein dathliad Nadolig! Yn wahanol iawn i'n partïon Nadolig yn y gorffennol, roedd ein parti eleni, ar-lein. Serch hynny, roedd hi ddal yn gyfle i fwynhau a chyfnewid cyfarchion yr wÿl. Roedd hefyd, yn gyfle i ni edrych nôl ar y flwyddyn flaenorol a pharatoi, fel tîm, i afael ar heriau a chyfleodd sydd i ddod yn y flwyddyn newydd.