POSITION: YMDDIRIEDOLWYR
Cyflog: Swydd wirfoddol ond gallwn ad-dalu unrhyw daliadau
Mae Eleni yn dymuno recriwtio aelodau bwrdd newydd sy’n meddu ar brofiad o ymwneud â’r sector cyhoeddus, preifat neu nid er elw, ynghyd â sgiliau eirioli arbennig. Yn ogystal, mae gofyn fod yr aelodau yn angerddol ynghylch cenhadaeth a gwerthoedd Eleni.
Eleni ydy’r mudiad datblygu dawnsio ar gyfer Sir y Fflint, Sir Ddinbych a Wrecsam. Caiff ei hariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
Cenhadaeth Eleni ydy meithrin lles diwylliannol, unigol a chymdeithasol cymunedau yng ngogledd ddwyrain Cymru drwy gynnal sesiynau dawns a hyrwyddo rhagoriaeth ac arloesedd wrth eu gwaith mewn sefydliadau addysg a chymunedol.
Mae Eleni yn croesawu ymgeiswyr o bob cefndir ac rydym yn dymuno derbyn ceisiadau yn arbennig gan y rheiny sy’n meddu ar wybodaeth yn ymwneud â marchnata a Chysylltiadau Cyhoeddus, codi arian a chyllid.
Mae’r Bwrdd Ymddiriedolwyr yn cymeradwyo’r cyllidebau, cyfrifon a strategaeth ariannol o fewn cyd-destun y ddeddfwriaeth bresennol.
Swydd Ddisgrifiad
Mae gofyn i’r Ymddiriedolwyr wneud y canlynol:
-
Gofalu caiff Eleni ei weinyddu’n effeithiol ac effeithlon ynghyd a gofalu fod sefyllfa ariannol y mudiad yn sefydlog.
-
Gofalu fod y mudiad yn cydymffurfio gyda’i ddogfen llywodraethu, cyfreithiau elusennau, cyfreithiau cwmni ac unrhyw ddeddfwriaethau neu reoliadau eraill perthnasol.
-
Meddu ar y sgiliau i ddadansoddi cynigion ac archwilio’u heffeithiau ariannol; parodrwydd i gynnig argymhellion amhoblogaidd gerbron y bwrdd.
-
Cynnig rheolaeth a dyheadau ar gyfer Eleni, gan ofalu fod y gwaith yn unol â’u cynllun busnes ac amcanion strategol.
-
Gweithredu fel llysgennad ac eiriolwr ar ran Eleni
-
Meddu ar sgiliau cyfathrebu, diplomyddiaeth a rhyngbersonol.
-
Gofalu fod y bwrdd wedi rhoi systemau rheoli boddhaol ar waith o ran rheoli risgiau cyfreithiol, gweithredol ac ariannol
-
Bod ar gael y tu allan i amseroedd cyfarfodydd bwrdd ar gyfer is bwyllgorau fel bo’r angen.
Ymroi Amser
Caiff Cyfarfodydd Bwrdd yr Ymddiriedolwyr eu cynnal rhwng pedwar a chwe gwaith y flwyddyn. Bydd gofyn i’r Ymddiriedolwyr hefyd ymroi eu hamser er mwyn mynychu cyfarfodydd pwyllgor ychwanegol a digwyddiadau allweddol Eleni, gan hyrwyddo’r elusen mewn rhwydweithiau allanol a datblygu partneriaethau dylanwadol.
Bydd hefyd digonedd o gyfleoedd i brofi gwaith y cwmni yn bersonol mewn prosiectau preifat ar y cyd, digwyddiadau cymunedol a pherfformiadau cyhoeddus ar raddfa uwch.